Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Gwobr Paul Robeson, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, honorary doctor of Brandeis University, Merch y Flwyddyn y Ladies' Home Journal
Dramodydd o Unol Daleithiau America oedd Lillian Hellman (20 Mehefin1905 - 30 Mehefin1984) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am sgriptio sioeau Broadway, ac fel hunangofiannydd a libretydd - yn ogystal am ei chydymdeimlad asgell chwith a'i gweithgarwch gwleidyddol. Cafodd ei beirniadu'n hallt ar ôl iddi ymddangos gerbron 'Pwyllgor y Tŷ ar gyhuddiadau o 'Weithgareddau An-Americanaidd (House Committee on Un-American Activities, neu HUAC) ar frig yr ymgyrchoedd gwrth-gomiwnyddol yn 1947-52. Er iddi barhau i weithio yn Broadway yn y 1950au ychydig iawn o waith a gai, gan ei bod ar y rhestr o bobl a anwybyddwyd (y blacklist), a gostyngodd ei hincwm. Roedd llawer yn canmol Hellman am wrthod ateb cwestiynau gan HUAC, ond roedd eraill yn credu, er gwaethaf iddi wadu hynny, ei bod yn perthyn i'r Blaid Gomiwnyddol.
Cafodd ei geni yn New Orleans ar 20 Mehefin1905 a bu farw yn Dukes County o drawiad ar y galon. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia a Phrifysgol Efrog Newydd.[1][2][3][4][5][6]
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014